NDM7153 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2019 | I'w drafod ar 02/10/2019Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi canlyniadau TGAU a safon uwch yr haf hwn yng Nghymru.
2. Yn gresynu bod canlyniadau TGAU A*-C haf 2019 yn waeth na chanlyniadau haf 2007.
3. Yn gresynu ymhellach at y gostyngiad yng nghanran y dysgwyr sy'n sicrhau graddau TGAU A*-C mewn Saesneg, mathemateg a Chymraeg ail iaith.
4. Yn nodi bod ymchwil Llywodraeth Cymru wedi canfod bod perfformiad yn erbyn dangosyddion allweddol ar gyfer blynyddoedd 4-9 wedi dirywio.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod ei methiant i wella cyrhaeddiad TGAU a safon uwch yn sylweddol yng Nghymru ac ymddiheuro i ddisgyblion, rhieni ac ysgolion am eu siomi.
Y Cyd-Gyngor Cymwysterau, Tystysgrif Lefel Mynediad TGAU, Canlyniadau GNVQ, Haf 2007 (Saesneg yn unig)
Y Cyd-Gyngor Cymwysterau, Tystysgrif Lefel Mynediad TGAU, Canlyniadau GNVQ, Haf 2019 (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod dysgwyr TGAU a safon uwch Cymru yn cael eu niweidio gan newidiadau diweddar sy'n glastwreiddio atebolrwydd ysgolion ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi'r duedd hon.
Cyflwynwyd gan
Ar ôl pwynt 1, dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn llongyfarch disgyblion, athrawon a staff ysgolion am eu gwaith caled ac am set gref o ganlyniadau.
Yn croesawu:
a) bod canlyniadau Safon Uwch yr haf hwn wedi parhau i fod ar y lefel uchaf yn eu hanes;
b) bod Cymru wedi gwella ei safle o ran Safon Uwch, mewn cymhariaeth â rhanbarthau Lloegr a Gogledd Iwerddon, ar gyfer pob gradd ac wedi’i graddio’n gyntaf ar gyfer A* am y tro cyntaf erioed;
c) bod y canlyniadau TGAU yn gyffredinol wedi dangos gwelliant yr haf hwn;
d) bod cynnydd o dros 50 y cant yn nifer yr ymgeiswyr ar gyfer TGAU gwyddoniaeth ers 2016, a bod cynnydd eleni yng nghanrannau’r disgyblion sy’n ennill graddau A*-A ac A*-C mewn pynciau gwyddonol;
e) bod nifer y disgyblion sy’n cael graddau A*-C yn y cwrs llawn Cymraeg fel Ail Iaith wedi cynyddu 12.5 y cant;
f) bod nifer y disgyblion a safodd TGAU Llenyddiaeth Saesneg wedi cynyddu 22.8 y cant, a bod 2,800 yn rhagor wedi ennill graddau A*-C o gymharu â 2018.
Cyflwynwyd gan
Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:
Yn credu nad oes modd gwneud cymariaethau ystyrlon gyda chanlyniadau TGAU a safon uwch blynyddoedd blaenorol am nifer o resymau.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ôl pwynt 4 ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn nodi canfyddiadau Estyn fod disgyblion sy’n mynychu hanner yr ysgolion uwchradd yng Nghymru yn methu â chyrraedd eu llawn botensial erbyn yr amser iddynt adael yr ysgol.
Yn credu fod y berthynas rhwng disgybl ac athro yn allweddol i gyrhaeddiad academaidd a bod yn rhaid ariannu ysgolion yn ddigonol er mwyn codi safonau.
Yn galw am wella amodau gwaith athrawon, gan ddileu biwrocratiaeth ac ymyrraeth diangen, er mwyn cryfhau cyflawniad academaidd.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid digonol i’n hysgolion ac i symud gwariant tuag at wasanaethau ataliol yn ei chyllideb nesaf, er mwyn creu’r amodau i’n disgyblion a’n hathrawon lwyddo.
Cyflwynwyd gan
Ym mhwynt 5, dileu “i gydnabod ei methiant i wella cyrhaeddiad TGAU a safon uwch yn sylweddol yng Nghymru ac ymddiheuro i ddisgyblion, rhieni ac ysgolion am eu siomi” a rhoi yn ei le “i ymddiheuro nad yw’r gyfundrefn addysg bresennol yn caniatáu i hanner disgyblion ysgol Cymru gyrraedd eu llawn botensial”.