NDM7141 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019 | I'w drafod ar 25/09/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cefnogi aelodaeth Cymru o Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a'i pharhad amhenodol.

2. Yn nodi bod Cymru, fel y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.

3. Yn cefnogi datganoli pellach mewn meysydd penodol a fyddai o fudd i Gymru a lle mae rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn elwa o ddatganoli o'r fath, fel toll teithwyr rheilffyrdd ac awyr.

4. Yn nodi'r rhan a fu gan yr Undeb Ewropeaidd yn y gorffennol o dan erthyglau 154 i 156 o Gytuniad Rhufain mewn perthynas â rhwydweithiau traws-Ewropeaidd, gan gynnwys yr M4 a'r A55.

5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi gwelliannau i'r A55 a chyflenwi ffordd liniaru'r M4 drwy gronfa ffyniant a rennir y DU er budd Cymru a'r DU gyfan.


Cytuniad yn sefydlu Cymuned Economaidd Ewrop

Gwelliannau

NDM7141 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 20/09/2019

Ym mhwynt 5, ar ôl 'gwelliannau i'r', ychwanegu 'seilwaith yng Nghymru, gan gynnwys yr'.

NDM7141 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 20/09/2019

Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 1 “ond yn credu bod angen i’r ffordd y cynhelir y cysylltiadau rhynglywodraethol rhwng y cenhedloedd datganoledig a Llywodraeth y DU gael ei diwygio mewn modd radical”.

Cyflwynwyd gan

NDM7141 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 20/09/2019

Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 2 “ond yn credu, yn sgil profiad y tair blynedd diwethaf, na ellir sicrhau dyfodol mwy disglair i Gymru heb i’r DU aros yn yr UE”.

Cyflwynwyd gan

NDM7141 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 20/09/2019

Ym mhwynt 3, yn lle “fel toll”, rhoi “fel plismona a chyfiawnder a tholl”.

Cyflwynwyd gan

NDM7141 - 5 | Wedi’i gyflwyno ar 20/09/2019

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth y DU:

a) i gryfhau ei hymrwymiad i fuddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru, er enghraifft drwy drydaneiddio’r prif linellau rheilffordd yn y De a’r Gogledd a buddsoddi mewn ynni llanw yng Nghymru, sy’n gyfrifoldeb iddi;

b) i ddarparu cyllid llawn yn lle’r cyllid Ewropeaidd y bydd Cymru’n ei golli os bydd y DU yn ymadael â’r UE, a hynny heb unrhyw ymyrraeth gan Lywodraeth y DU o ran y ffordd orau o’i ddefnyddio.

Cyflwynwyd gan