NDM7139 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2019 | I'w drafod ar 25/09/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Hawliau Pleidleisio i Garcharorion', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Mehefin 2019.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Gorffennaf 2019.