NDM7130 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 10/09/2019 | I'w drafod ar 17/09/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru).

Gosodwyd y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 25 Mawrth 2019;

Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 2 Awst 2019.