NDM7122 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2019 | I'w drafod ar 16/07/2019Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mehefin 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Mae copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU:
https://services.parliament.uk/Bills/2017-19/nondomesticratingpubliclavatories.html