NDM7118 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2019 | I'w drafod ar 10/07/2019Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw am gynyddu’r nifer o Aelodau Cynulliad.
2. Yn galw am weithredu ar unwaith er mwyn cynyddu’r nifer o Aelodau Cynulliad erbyn dechrau’r Chweched Cynulliad.
3. Yn galw am ddiwygio system etholiadol y Cynulliad a chyflwyno system pleidlais sengl drosglwyddadwy o ethol Aelodau erbyn etholiadau nesaf y Cynulliad yn 2021.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le;
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad.
2. Yn credu nad oes awydd ymysg y cyhoedd sy'n pleidleisio i gynyddu nifer y gwleidyddion yng Nghymru ar hyn o bryd, ac y dylai ymdrechion ganolbwyntio yn hytrach ar:
a) deddfu cynigion adolygiad 2018 o Etholaethau Seneddol i'w hethol i Dŷ'r Cyffredin;
b) cyflymu'r broses o ddiwygio etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru.
Senedd Sy'n Gweithio i Gymru - Adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad
Cyflwynwyd gan
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyhoeddi Senedd sy'n Gweithio i Gymru a'i hargymhellion.
2. Yn cytuno bod angen cynnydd yn nifer yr Aelodau Cynulliad.
3. Yn galw am ragor o waith trawsbleidiol i fwrw ymlaen â'r materion hyn.
Senedd sy'n Gweithio i Gymru - Adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad
Cyflwynwyd gan
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod heriau sylweddol o ran capasiti Aelodau'r Cynulliad i ymgymryd â gwaith craffu boddhaol ar ddeddfwriaeth a Llywodraeth Cymru.
2. Yn galw am ymchwiliad pellach i effaith unrhyw gynnydd yn nifer Aelodau'r Cynulliad ac a oes cefnogaeth gyhoeddus i symudiad o'r fath.
3. Yn galw am i unrhyw gynnydd yn nifer Aelodau'r Cynulliad gael ei ariannu drwy arbedion cyffredinol i drethdalwyr, yn deillio o ganlyniad i leihad yn nifer gyffredinol y cynrychiolwyr etholedig yng Nghymru.
4. Yn galw ar i unrhyw Aelodau Cynulliad ychwanegol gael eu hethol ar sail heb fod yn llai cyfrannol na'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd.