NNDM7104 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer creu rheoliadau o dan adrannau 26, 27 a 39 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i gyflwyno safonau’r Gymraeg i ragor o gyrff a mudiadau.

2. Yn nodi mai diben y rheoliadau fyddai:

a) caniatáu i Gomisiynydd y Gymraeg osod safonau ar y sector cymdeithasau tai, dŵr, gwasanaethau post, trafnidiaeth, ynni, telathrebu ynghyd ag ychwanegu cyrff newydd at reoliadau a basiwyd eisoes;

b) rhoi rhagor o hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg i bersonau a staff, gan sicrhau cynnydd mewn argaeledd a defnydd gwasanaethau Cymraeg i bobl Cymru;

c) sicrhau cysondeb yn y fframwaith deddfwriaethol y mae cyrff yn gweithio oddi mewn iddo o ran defnyddio’r Gymraeg, gan gynnal momentwm y gyfundrefn safonau;

d) gyrru nodau ac amcanion strategaeth Cymraeg2050 o ran y gweithlu a chynllunio ieithyddol strategol yn eu blaen.

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Cymraeg 2050: strategaeth y Gymraeg

Cyflwynwyd gan