NDM7097 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 18/06/2019 | I'w drafod ar 25/06/2019Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad yr Arolygydd Cyhoeddus a’r llythyr o benderfyniad a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ddydd Mawrth 4 Mehefin, gan gynnwys datganiad llafar yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, ynghylch prosiect coridor yr M4 o amgylch Casnewydd.
2. Yn nodi’r camau nesaf a amlinellwyd gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth gan gynnwys sefydlu Comisiwn o arbenigwyr o dan arweiniad yr Arglwydd Terry Burns.
3. Yn cydnabod y problemau sylweddol o ran tagfeydd ar rwydwaith yr M4 ger Twnelau Brynglas a’u heffaith ar Gasnewydd a’r economi ehangach
4. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu ac ariannu atebion cynaliadwy ac effeithiol i broblemau tagfeydd fel rhan o system drafnidiaeth integredig, aml-ddull a charbon isel.
Adroddiad yr Ymchwiliad Cyhoeddus
Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd: llythyr penderfynu
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chadw at ei haddewid i ddarparu ffordd liniaru'r M4.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig;
Yn cydnabod bod tagfeydd o amgylch Casnewydd wedi bod yn llesteirio economi Cymru dros y ddau ddegawd diwethaf ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw fesurau lleddfu, yn absenoldeb ffordd liniaru, yn cael eu rhoi ar waith cyn gynted â phosibl.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i gyhoeddi adroddiad yr Arolygydd Cyhoeddus Annibynnol cyn 4 Mehefin 2019.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at fethiant un Llywodraeth Lafur ar ôl y llall yng Nghymru i ddatrys y tagfeydd ar yr M4 hyd yn hyn.
Cyflwynwyd gan
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i dderbyn argymhelliad yr arolygydd cyhoeddus annibynnol ac adeiladu ffordd liniaru'r M4.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw gynnig newydd yn rhan o becyn buddsoddi mewn seilwaith ar gyfer Cymru gyfan.