NNDM7077 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 13/06/2019Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i sefydlu fframwaith moesegol ar gyfer adeiladu tai preswyl newydd yng Nghymru.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) diddymu'r gwaith o adeiladu tai preswyl ar brydles yng Nghymru a thrwy hynny ddileu'r annhegwch a'r ansicrwydd ariannol sy'n rhan gynhenid o'r contractau hyn;
b) diddymu'r arfer o osod cymalau ffioedd rheoli mewn contractau rhydd-ddaliadol yng Nghymru a thrwy hynny ddileu'r annhegwch a'r ansicrwydd ariannol sy'n rhan gynhenid o'r contractau hyn;
c) cyflwyno 'opsiwn diofyn', sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr osod gwasanaethau (gan gynnwys band eang) i'r fanyleb uchaf sydd ar gael ym mhob eiddo newydd a adeiledir yng Nghymru;
d) gosod gofyniad ar ddatblygwyr i sicrhau bod cynefin bywyd gwyllt a bywyd gwyllt ar 'dir wedi'i gronni' yng Nghymru yn cael ei ddiogelu;
e) cyflwyno ardoll ar ddatblygwyr yng Nghymru i gyfrannu at 'gronfa gymunedol' er mwyn sicrhau bod y broses apeliadau cynllunio yn decach.