NDM7050 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 08/05/2019 | I'w drafod ar 15/05/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod mwy na 21,000 o oedolion ifanc rhwng 14 a 25 oed yng Nghymru yn ofalwyr ifanc sy'n darparu cymorth a chefnogaeth i deuluoedd a ffrindiau.

2. Yn pryderu'n fawr fod cyrhaeddiad addysgol oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn sylweddol is na'u cyfoedion a'u bod dair gwaith yn fwy tebygol o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ar fyrder ag anghenion cymorth oedolion ifanc sy'n ofalwyr, yn ogystal â'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu o ran addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, gan gynnwys:

a) canfod gofalwyr ifanc yn gynnar er mwyn eu helpu i gael cymorth yn rhwydd a lleihau'r tebygolrwydd y bydd pobl ifanc yn ymddieithrio o addysg;

b) cyflwyno'r cerdyn adnabod gofalwyr ifanc yn genedlaethol ynghyd â dyletswydd ar awdurdodau lleol i roi'r cerdyn ar waith;

c) codi ymwybyddiaeth awdurdodau lleol o'u dyletswyddau o dan Ddeddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i hybu lles gofalwyr y mae angen cymorth arnynt; a

d) helpu gofalwyr ifanc i fanteisio ar addysg ôl-16, gan gynnwys drwy gyflwyno cynllun teithio rhatach.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Gwelliannau

NDM7050 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 10/05/2019

Ym mhwynt 3b, dileu “ynghyd â dyletswydd ar awdurdodau lleol i roi'r cerdyn ar waith” a rhoi yn ei le “a gweithio gydag awdurdodau lleol i roi’r cerdyn ar waith”

Cyflwynwyd gan

NDM7050 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 10/05/2019

Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

'sicrhau bod darpariaeth gofal seibiant yn gwella er mwyn i ofalwyr ifanc allu cael hoe. '