NDM7045 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 30/04/2019 | I'w drafod ar 08/05/2019Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi y cynhelir Wythnos Genedlaethol Gwaith Doeth rhwng dydd Sul 12 Mai a dydd Sadwrn 18 Mai 2019.
2. Yn credu bod gweithio gartref yn rhoi mwy o hyblygrwydd ar gyfer cyfrifoldebau teuluol, a bod iddo fanteision ehangach hefyd, megis llai o draffig a llygredd, gwaith mwy hygyrch i bobl anabl, a chadw costau adeiladau yn isel i fusnesau.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bob corff cyhoeddus yng Nghymru ddyletswydd i gynnwys gweithio gartref yn y broses o gynllunio swyddi a recriwtio.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth benodol ar gyfer gweithio gartref o fewn y prosiect sy'n olynu Superfast Cymru, er mwyn sicrhau nad yw pobl sy'n dymuno gweithio gartref yn cael eu rhwystro gan ddiffyg mynediad at fand eang.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod yr Athro Sharon Clarke a Dr Lyn Holdsworth o Ysgol Fusnes Manceinion wedi datgan bod gweithwyr hyblyg, yn enwedig gweithwyr cartref, yn wynebu'r posibilrwydd o gynnydd mewn straen galwedigaethol o ganlyniad i ddwysáu gwaith, gwrthdaro â chyd-weithwyr, ac amharu ar lif gwybodaeth ac mae'n cydnabod yr angen i'r materion hyn gael eu hystyried wrth lunio polisïau yn y dyfodol.
Cyflwynwyd gan
Ym mhwynt 4, dileu:
“ddatblygu strategaeth benodol ar gyfer gweithio gartref o fewn y prosiect sy'n olynu Superfast Cymru, er mwyn