NDM7041 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 29/04/2019 | I'w drafod ar 07/05/2019Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cefnogi:
a) yn galonnog y frwydr fyd-eang i ddiwreiddio hiliaeth ac ideoleg hiliol ac yn ymdrechu tuag at Gymru fwy cyfartal, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol o bob math; a
b) egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu ar sail Hil.
2. Yn galw ar Gomisiwn y Cynulliad ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru i hwyluso'r gwaith o lunio datganiad trawsbleidiol, yn crynhoi egwyddorion Diddymu Pob Math o Wahaniaethu ar sail Hil mewn ymgynghoriad â'r unigolion a'r sefydliadau mwyaf priodol.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu ar sail Hil