NDM7038 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor
Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2019 | I'w drafod ar 01/05/2019Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei Ymchwiliad i Berthynas Cymru ag Ewrop a’r Byd yn y dyfodol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Chwefror 2019.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 24 Ebrill 2019.