NDM7036 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 23/04/2019 | I'w drafod ar 01/05/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi rhybudd llym gan gymuned wyddonol y byd nad oes dim ond 12 mlynedd ar ôl i atal 1.5 gradd o gynhesu.

2. Yn nodi ymhellach fod cynhesu tu hwnt i 1.5 gradd yn cynrychioli bygythiad i ddyfodol dynoliaeth, a bod cynhesu cyfyngedig i'r lefel honno, hyd yn oed, yn peri difrod i fywoliaeth pobl ddirifedi ar draws y byd.

3. Yn cydnabod bod ymateb byd-eang brys yn angenrheidiol ar unwaith.

4. Yn croesawu'r ffaith bod atebion i'r argyfwng yn yr hinsawdd ar gael yn eang gan gynnwys technoleg adnewyddadwy, opsiynau trafnidiaeth cynaliadwy ac adeiladau di-garbon.

5. Yn cefnogi penderfyniadau cynghorau sir, tref a chymuned ar draws Cymru i basio cynigion yn datgan argyfwng o ran yr hinsawdd a phennu targedau o sero ar gyfer allyriadau carbon yn eu hardaloedd lleol.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgan argyfwng o ran yr hinsawdd.

Gwelliannau

NDM7036 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2019

Dileu pwyntiau 5 a 6 a rhoi yn eu lle:

Yn croesawu'r rôl arweiniol y mae'r DU wedi'i chwarae wrth weithio tuag at fargen fyd-eang i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr drwy Gytundeb Paris ac yn nodi bod y DU, ers 1990, wedi torri allyriadau fwy na 40 y cant tra'n tyfu'r economiy gan fwy na dwy ran o dair, sef y perfformiad gorau fesul person nag unrhyw genedl G7 arall.

Yn gresynu mai dim ond 19 y cant y mae allyriadau yng Nghymru wedi lleihau yn ystod y cyfnod rhwng 1990 a 2015 ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol a Llywodraeth y DU i sicrhau y cyrhaeddir targedau newydd o ran allyriadau carbon sy'n gyfreithiol orfodol wrth symud ymlaen yng Nghymru.

Cytundeb Paris (Saesneg yn unig)

NDM7036 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 26/04/2019

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cymeradwyo Llywodraeth Cymru am:

a) ddwyn ymlaen Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) i sbarduno’r gweithredu ar fyrder ar y newid yn yr hinsawdd;

b) ymrwymo’r sector cyhoeddus yng Nghymru i fod yn ddi-garbon erbyn 2030 ac i bob adeilad y sector cyhoeddus ddefnyddio ynni adnewyddadwy yn gyfan-gwbl erbyn 2020 neu cyn gynted â bod modd gwneud hynny o ran contractau; ac 

c) edrych ar bob opsiwn ar gyfer datgarboneiddio economi Cymru drwy weithio gyda pob sector a chymuned, gan dynnu ar y dystiolaeth wyddonol orau sydd ar gael. 

 

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Deddf yr Amgylchedd (Cymru)

Cyflwynwyd gan