NNDM7031 - Cynnig Heb Ddyddiad Trafod

Wedi’i gyflwyno ar 28/03/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r dyfarniad diweddar yn yr Uchel Lys bod y cyn Brif Weinidog, Carwyn Jones, wedi ymyrryd yn anghyfreithlon â'r ymchwiliad annibynnol i'r ffordd yr ymdriniodd â diswyddo Carl Sargeant.

2. Yn ei gwneud yn ofynnol bod Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, gan weithredu yn unol ag Adran 37(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn paratoi, at ddibenion y Cynulliad, gyda golygiadau priodol i sicrhau bod tystion yn aros yn anhysbys, adroddiad yr ymchwiliad ynghylch a oedd unrhyw dystiolaeth y cafodd gwybodaeth ei rhannu o flaen llaw heb ganiatâd mewn perthynas â'r ad-drefnu Gweinidogol ym mis Tachwedd 2017..

 

Crynodeb y wasg a Dyfarniad yr Uchel Lys ar yr Ymchwiliad o dan arweiniad Cwnsler y Frenhines i ddiswyddo Carl Sargeant (Saesneg yn unig)

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Saesneg yn unig)