NDM7021 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2019 | I'w drafod ar 03/04/2019Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cynnig i gael bil i ddiwygio a gwella cefnogaeth ar gyfer plant sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol yng Nghymru.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) cyflwyno'r Model Barnahus o gymorth i ddioddefwyr gyda phwyslais therapiwtig;
b) gweithio gyda'r heddlu i ddefnyddio'r Model Barnahus o gynnal ymchwiliad i bob achos o gam-drin plant yn rhywiol; ac
c) yn cyflwyno newidiadau statudol i wella llety brys a llety dros dro i blant sydd wedi'u cam-drin, sy'n methu â dychwelyd i'w cartref neu sy'n ddigartref.