NDM7018 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 20/03/2019 | I'w drafod ar 27/03/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y rôl bwysig y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.

2. Yn cydnabod yr heriau ariannol y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn eu hwynebu ar hyn o bryd.

3. Yn nodi bod trethdalwyr Cymru, ar hyn o bryd, yn talu cyfran uwch o'u hincwm ar y dreth gyngor nag yn Lloegr na'r Alban.

4. Yn gresynu bod

a) lefel y dreth gyngor yng Nghymru wedi treblu ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999; a

b) lefel y dreth gyngor yng Nghymru wedi cynyddu ar gyfradd gyflymach nag yn Lloegr a'r Alban.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad annibynnol o fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru.

Gwelliannau

NDM7018 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 22/03/2019

Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod lefelau treth gyngor ar gyfer eiddo band D yng Nghymru ar gyfartaledd yn is na’r rhai yn Lloegr.

Yn cydnabod bod y fformiwla gyllido ar gyfer awdurdodau lleol Cymru yn cael ei hadolygu yn flynyddol drwy bartneriaeth rhwng llywodraeth leol Cymru a Llywodraeth Cymru.

Cyflwynwyd gan

NDM7018 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 22/03/2019

Dileu pwynt 4.

NDM7018 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 22/03/2019

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori ar setliad ariannu tymor hir ar gyfer llywodraeth leol a fyddai'n caniatáu ar gyfer cynllunio tymor hwy ar gyfer llywodraeth leol.

NDM7018 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 22/03/2019

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod fod y dreth gyngor wedi cynyddu oherwydd llymder a weithredwyd gan San Steffan a diffyg blaenoriaeth ar gyfer llywodraeth leol gan Lywodraeth Cymru wrth lunio'r gyllideb.

NDM7018 - 5 | Wedi’i gyflwyno ar 22/03/2019

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y cysylltiad pwysig rhwng y GIG a llywodraeth leol wrth ddarparu gwasanaethau.

NDM7018 - 6 | Wedi’i gyflwyno ar 22/03/2019

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i leihau nifer y grantiau neilltuedig er mwyn caniatáu mwy o hyblygrwydd wrth i lywodraeth leol wario grantiau.