NDM6089 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 13/09/2016 | I'w drafod ar 13/09/2016

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod amryfal fanteision iechyd a lles gweithgaredddau corfforol.

2. Yn nodi mai dim ond 35 y cant o blant Cymru sy'n cael yr awr o weithgareddau corfforol a gaiff ei argymell sydd ei angen arnynt bob dydd.

3. Yn cydnabod potensial Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 i godi lefelau gweithgareddau corfforol ymysg pob grŵp oedran.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n llawn â chymunedau i ganfod y llwybrau newydd a fyddai'n cysylltu cyrchfannau lleol ac a fyddai fwyaf tebygol o gael defnydd da.

'Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013'

Cyflwynwyd gan