NDM6990 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 11/03/2019 | I'w drafod ar 27/03/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

a) pwysigrwydd rygbi i bobl Cymru, y manteision economaidd sy'n gysylltiedig â'r gêm, a'i lle arbennig yng ngwead cymunedau ledled ein cenedl;

b) yr heriau ariannol a strwythurol sy'n wynebu rygbi yng Nghymru ar hyn o bryd;

 c) goblygiadau posibl 'Project Reset' Undeb Rygbi Cymru ar rygbi proffesiynol a'r strwythur rhanbarthol yng Nghymru, ac ar y gwasanaethau lleol a chymunedol ychwanegol a ddarperir ar hyn o bryd gan y rhanbarthau; a

d) y pryderon cryf a fynegwyd gan gefnogwyr ynghylch y posibilrwydd o uno rhanbarthau'r Gweilch a'r Sgarlets.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Undeb Rygbi Cymru a phartneriaid rhanbarthol/clwb i ddiogelu rygbi yng Nghymru a llunio model cynaliadwy tymor hir ar gyfer y gêm ar lefel ranbarthol ac ar lawr gwlad.