NDM6989 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2019 | I'w drafod ar 13/03/2019Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i uno Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru drwy ffurfio Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2013.
2. Yn cydnabod gwaith caled y staff rheng flaen yn y sefydliad ond yn deall eu hanfodlonrwydd a'u diffyg hyder yn y penderfyniadau a wneir gan uwch reolwyr, fel y caiff ei fynegi'n rheolaidd mewn arolygon staff ers sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru.
3. Yn gresynu at fethiant systematig Cyfoeth Naturiol Cymru o ran pobl Cymru drwy nifer o sgandalau proffil uchel, gan gynnwys:
a) diffygion difrifol wrth ymdrin â chontractau pren, i'r graddau bod yr archwilwyr, Grant Thornton, wedi dweud eu bod mor ddrwg eu bod yn "dwysáu'r amlygiad i'r risg o dwyll";
b) 'cymhwyso' cyfrifon y sefydliad gan Swyddfa Archwilio Cymru am dair blynedd yn olynol, sy'n awgrymu bod ansicrwydd ynghylch a oedd y sefydliad wedi gweithredu o fewn y rheolau;
c) y dull anghyson y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn arwain wrth benderfynu ymyrryd ar faterion o ddiddordeb cyhoeddus megis saethu ar dir cyhoeddus a dympio mwd niwclear.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn adolygiad/ymchwiliad annibynnol i fethiannau'r sefydliad ac ymchwilio i gynigion amgen ar gyfer rheoli adnoddau naturiol Cymru.
Grant Thornton - Natural Resources Wales - Governance of Timber Sales - 3 February 2019
Cyfoeth Naturiol Cymru - Adroddiad Blynyddol a Cyfrifon 2015-16
Cyfoeth Naturiol Cymru - Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2016-17
Cyfoeth Naturiol Cymru - Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle bwyntiau newydd:
Yn nodi casgliadau ac argymhellion yr adroddiadau gan:
a) Ymchwiliad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol i adroddiad blynyddol a chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-2018 – Tachwedd 2018;
b) Grant Thornton – Cyfoeth Naturiol Cymru - Llywodraethu’r Gwaith o Werthu Pren – Chwefror 2019.
Yn croesawu penodi prif weithredwr a chadeirydd dros dro newydd ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru a’u hymrwymiad i weithredu argymhellion y ddau adroddiad a gwella’r modd y caiff Cyfoeth Naturiol Cymru ei reoli a’i lywodraethu.
Cyflwynwyd gan
Ym mhwynt 3, dileu "Yn gresynu at fethiant systematig Cyfoeth Naturiol Cymru o ran pobl Cymru drwy nifer o sgandalau proffil uchel" a rhoi yn ei le "Yn gresynu at nifer y methiannau proffil uchel yn Cyfoeth Naturiol Cymru".
Cyflwynwyd gan
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu adolygiad annibynnol er mwyn canfod a yw'n dal yn briodol i Gyfoeth Naturiol Cymru barhau i reoli'r ystâd goedwig fasnachol yng Nghymru ac ystyried unrhyw fodelau amgen posibl.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru adnoddau priodol i gyflawni ei holl ddyletswyddau yn ddigonol.