NDM6979 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 26/02/2019 | I'w drafod ar 05/03/2019Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai’r darpariaethau yn y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid Gwasanaeth), sy’n gysylltiedig ag Iechyd a Lles Anifeiliaid, i’r graddau y maent o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Ionawr 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Mae copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU:
https://services.parliament.uk/bills/2017-19/animalwelfareserviceanimals.html