NDM6969 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 12/02/2019 | I'w drafod ar 19/02/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

1. Nodi Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2017-18 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Rhagfyr 2018.

2. Croesawu bod y “newid mewn diwylliant tuag at system fwy cydweithredol a hunan-wella yn parhau ar ei raddfa cyflym”.

3. Nodi bod safonau’n dda neu'n well mewn 8 allan o bob 10 ysgol gynradd, sydd yn gynnydd ar y llynedd.

4. Nodi, er bod safonau dal yn dda neu'n well mewn tua hanner o’n hysgolion uwchradd, bod amrywioldeb yn dal i fod yn her allweddol.

Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2017-18

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NDM6969 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 14/02/2019

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi ymroddiad parhaus athrawon a staff cynorthwyol yn ein hysgolion yn eu gwaith o godi safonau a chyrhaeddiad disgyblion.

NDM6969 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 14/02/2019

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi adroddiad Donaldson ar Estyn, Arolygiaeth Dysgu; Adolygiad annibynnol o Estyn a gyhoeddwyd yn Mehefin 2018, ac sydd heb dderbyn ymateb gan Lywodraeth Cymru hyd yma.

Arolygiaeth Dysgu; Adolygiad annibynnol o Estyn - Graham Donaldson

NDM6969 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 14/02/2019

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi adroddiad Prifysgol Caerdydd 'Cut to the Bone?' sy’n cadarnhau bod gwariant ysgol yn 2017-18 £324 y disgybl yn is mewn termau real na’r ffigwr cyfatebol yn 2009-10.

Prifysgol Caerdydd - Cut to the Bone? An analysis of Local Government finances in Wales, 2009-10 to 2017-18 and the outlook to 2023-24

NDM6969 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 14/02/2019

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi llythyr agored ASCL Cymru a’i sylwadau fod yna argyfwng cyllid difrifol mewn ysgolion yng Nghymru sydd yn cael effaith andwyol ar bobl ifanc Cymru.

Llythyr agored gan ASCL Cymru at y Gweinidog Addysg

NDM6969 - 5 | Wedi’i gyflwyno ar 14/02/2019

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried gwariant teg o’r gyllideb a fydd yn ysgafnhau’r pwysau presennol sy’n bodoli ar ein hysgolion.

NDM6969 - 6 | Wedi’i gyflwyno ar 14/02/2019

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at ganfyddiadau Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru ar gyfer 2017-18 ar gyfer disgyblion yn hanner ysgolion uwchradd Cymru, nad yw mwyafrif y disgyblion ar draws pob oedran a gallu yn gwneud digon o gynnydd.

2. Yn gresynu nad yw mwyafrif y disgyblion, yn hanner yr ysgolion, yn cyflawni yn unol â'u galluoedd erbyn iddynt gyrraedd diwedd addysg orfodol.

3. Yn gresynu at y gostyngiad parhaus yn nifer y lleoliadau sy'n darparu addysg ar gyfer plant 3 a 4 oed.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i esbonio unrhyw brosesau archwilio mewnol sydd ganddi o ran consortia rhanbarthol a rhannu canlyniadau unrhyw archwiliad mewnol neu allanol a allai fod wedi cael ei gynnal ers cyhoeddi canllawiau dilynol Estyn ar gyfer consortia rhanbarthol ac arolygwyr ym mis Medi 2017.

Estyn-canllawiau dilynol ar gyfer arolygwyr a chonsortia rhanbarthol – Medi 2017