NDM6966 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2019 | I'w drafod ar 13/02/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y dylai carchardai fod yn fannau diwygio ac adsefydlu, ac mai'r carchar yw'r gosb ar gyfer y rhai a gaiff eu dyfarnu'n euog o drosedd.

2. Yn penderfynu na ddylai carcharorion gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau Cymru.

Gwelliannau

NDM6966 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 08/02/2019

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y dylai carchardai fod yn lleoedd i ddiwygio ac adsefydlu.

2. Yn cefnogi’r egwyddor o hawliau pleidleisio i garcharorion yn etholiadau Cymru, ond yn disgwyl am adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

Cyflwynwyd gan

NDM6966 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 08/02/2019

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn croesawu'r ffocws gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar wasanaethau adsefydlu, dedfrydau cymunedol a lleihau aildroseddu.

Yn nodi bod y Pwyllgor Cydraddoldeb,  Llywodraeth Leol a Chymunedau yn cynnal ymchwiliad cyfredol i hawliau pleidleisio i garcharorion. 

NDM6966 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 08/02/2019

Ym mhwynt 2, dileu 'na ddylai carcharorion gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau Cymru' a rhoi yn ei le 'na ddylai hawliau pleidleisio cyfredol carcharorion gael eu hymestyn i etholiadau Cymru yn y dyfodol'