NDM6949 - Dadl y Cynulliad
Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019 | I'w drafod ar 30/01/2019Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru: Dedfrydu a Dalfa yng Nghymru: Ffeil Ffeithiau.
2. Yn mynegi pryder am ganfyddiadau’r adroddiad mai yng Nghymru y mae’r raddfa garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop, a bod dedfrydau llymach yng Nghymru yn cael effaith anghymesur ar fenywod, pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a chymunedau difreintiedig.
3. Yn nodi gwaith ymchwil blaenorol gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru sydd wedi datgelu problemau helaeth o ran diogelwch a lles yng ngharchardai Cymru, gan gynnwys graddau cynyddol o gamddefnyddio sylweddau, hunan-niweidio, trais a hunanladdiad.
4. Yn nodi bod nifer o droseddwyr ifanc o Gymru yn treulio amser eu dedfryd mewn carchardai yn Lloegr, a bod y carchar yn cael effaith negyddol sylweddol ar gyfleoedd bywyd pobl ifanc yn y dyfodol.
5. Yn galw am:
a) datganoli cyfiawnder troseddol yn gyfan gwbl i Gymru;
b) diystyru adeiladu rhagor o ‘Uwch garchardai’ ar unrhyw safle yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfleu’r gwrthwynebiad hwn i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder;
c) ailuno'r gwasanaeth prawf yn gyfan gwbl a rhoi diwedd ar breifateiddio rhannol;
d) ffocws ar ddulliau cymunedol ar gyfer troseddau nad ydynt yn rhai treisgar a rhoi'r gorau i or-ddefnyddio dedfrydau carcharu byr;
e) rhoi diwedd ar ddedfrydau o garchar i bobl ifanc a menywod ac eithrio mewn amgylchiadau neilltuol;
f) yr hawl i garcharorion bleidleisio yn etholiadau Cymru.
Canolfan Llywodraethiant Cymru - Dedfrydu a Dalfa yng Nghymru: Ffeil Ffeithiau (Saesneg yn unig)
Canolfan Llywodraethiant Cymru - Carcharu yng Nghymru: Ffeil Ffeithiau (Saesneg yn unig)
Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin: Tystiolaeth Atodol - Dr Robert Jones, Canolfan Llywodraethiant Cymru, Medi 2018 (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, Dedfrydu a Dalfa, Carcharu yng Nghymru a thystiolaeth atodol i'r Pwyllgor Dethol Materion Cymreig.
2. Yn nodi ymhellach bod 11 y cant o gyfanswm poblogaeth carchardai Cymru a Lloegr, yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ym mis Hydref 2018, yn wladolion tramor, a'r mwyaf cyffredin yn dod o Wlad Pwyl, Albania, Iwerddon a Rwmania.
3. Yn credu:
a) y dylid ariannu gwasanaeth y carchardai yn ddigonol a rhoi tâl digonol i swyddogion carchardai;
b) y dylai pob carcharor a gaiff ei gadw yn y ddalfa gan swyddogion y Goron fod yn atebol i Weinidogion Llywodraeth y DU ac nid cwmnïau preifat;
c) y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU i wyrdroi preifateiddio'r system garchardai;
d) y dylai troseddwyr o dramor gael eu halltudio i fwrw eu dedfryd yn eu gwledydd eu hunain, ac y dylai troseddwyr o'r fath gael eu gwahardd rhag dychwelyd i'r DU;
e) y dylai carchardai newydd gael eu hadeiladu fel y bo angen ledled y DU i ddarparu ar gyfer nifer y bobl a gaiff eu dyfarnu'n euog o droseddau sy'n dwyn cosb o garchar.
Bwletin Ystadegau Rheoli Troseddwyr, Cymru a Lloegr (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi ffocws gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar wasanaethau adsefydlu, dedfrydau cymunedol a lleihau aildroseddu.
Cyflwynwyd gan
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu gwaith y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ac yn edrych ymlaen at ei argymhellion ynglŷn â’r cyfrifoldeb am blismona a chyfiawnder yng Nghymru yn y dyfodol.
Yn galw am:
a) diystyru adeiladu rhagor o ‘uwch garchardai’ ar unrhyw safle yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfleu’r gwrthwynebiad hwn i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder;
b) ailuno'r gwasanaeth prawf yn gyfan gwbl a rhoi diwedd ar breifateiddio rhannol;
c) ffocws ar ddulliau cymunedol ar gyfer troseddau nad ydynt yn rhai treisgar a rhoi'r gorau i or-ddefnyddio dedfrydau carcharu byr;
d) rhoi diwedd ar ddedfrydau o garchar i bobl ifanc a menywod ac eithrio mewn amgylchiadau neilltuol; ac
e) yr hawl i garcharorion bleidleisio yn etholiadau Cymru.