NDM6946 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor
Wedi’i gyflwyno ar 22/01/2019 | I'w drafod ar 29/01/2019Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol o'r enw 'Paratoi ar gyfer Brexit – adroddiad dilynol ar barodrwydd porthladdoedd Cymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Tachwedd 2018.
2. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol o'r enw 'Paratoi ar gyfer Brexit – Adrodd ar barodrwydd y sector gofal iechyd a meddyginiaethau yng Nghymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Rhagfyr 2018.
3. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol o'r enw 'Paratoi ar gyfer Brexit - Adrodd ar barodrwydd y sector bwyd a diod yng Nghymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2018.
Nodyn: Gosodwyd ymatebion Llywodraeth Cymru i'r adroddiadau yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Ionawr 2019: