NDM6921 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 15/01/2019 | I'w drafod ar 23/01/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol denu pobl, busnesau a buddsoddiad i Gymru fel modd o dyfu refeniw treth yng Nghymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i beidio â chodi Cyfraddau Treth Incwm Cymru am weddill y Pumed Cynulliad.  

Gwelliannau

NDM6921 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 18/01/2019

Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 1:

'ond yn pwysleisio blaenoriaethu sicrhau twf economaidd a chynnydd mewn refeniw drwy gefnogi busnes cynhenid.'

NDM6921 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 18/01/2019

Dileu pwynt 2 ac yn ei le rhoi:

Yn annog trafodaeth sifig aeddfed ynglyn â sut orau i ddefnyddio pwerau trethianol datganoledig newydd er budd economaidd a chymdeithasol Cymru.