NDM6919 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 09/01/2019 | I'w drafod ar 23/01/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi nad yw cyn-weithwyr Allied Steel and Wire wedi cael gwerth llawn eu pensiynau o hyd, er gwaethaf cytundeb iawndal a gytunwyd yn 2007 gyda Llywodraeth flaenorol y DU a bron 14 mlynedd ar ôl newid yng nghyfraith y DU.

2. Yn nodi bod gweithwyr, o dan gytundeb iawndal a gytunwyd yn 2007 gyda Llywodraeth flaenorol y DU, wedi cael addewid o union yr un driniaeth â gweithwyr a deiliaid cynllun pensiwn o dan y gronfa diogelu pensiynau a'r cynllun cymorth ariannol.

3. Yn nodi bod gan weithwyr, yn sgil newidiadau yn y gyfraith ers 2004, o dan y gronfa diogelu pensiynau a'r cynllun cymorth ariannol, yr hawl i gael eu talu hyd at 90 y cant o werth eu cyfraniad pensiwn. Fodd bynnag, nid yw cyfraniadau a dalwyd cyn 1997 wedi'u diogelu rhag chwyddiant.

4. Yn gresynu at y caledi ariannol y mae hyn wedi'i achosi i gyn-weithwyr ASW yng Nghymru.

5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i anrhydeddu ysbryd yr ymrwymiadau a wnaeth Llywodraeth flaenorol y DU i weithwyr ASW yng Nghymru.