NDM6918 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 09/01/2019 | I'w drafod ar 16/01/2019Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gwrthod ymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb o dan unrhyw amgylchiadau.
2. Yn galw ar y Prif Weinidog i ofyn bod cyd-bwyllgor Gweinidogion y DU yn cael ei ailgynnull ar fyrder er mwyn ceisio cytundeb ar ddiystyru gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y ffaith bod cytundeb ymadael drafft Llywodraeth y DU yn negyddu canlyniad y refferendwm yn sylweddol, drwy gadw'r DU yn yr undeb tollau am gyfnod amhenodol ac, i bob pwrpas, yn y farchnad sengl, gan ein hamddifadu hefyd o unrhyw lais ffurfiol neu bleidlais ym mhenderfyniadau'r Undeb Ewropeaidd.
2. Yn cymeradwyo ymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ac o dan delerau Sefydliad Masnach y Byd, er mwyn bodloni dymuniadau pobl y DU, a Chymru, a bleidleisiodd yn bendant i adael yr Undeb Ewropeaidd.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gofleidio adferiad sofraniaeth genedlaethol Prydain y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.
Draft Agreement on the withdrawal of the United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland from the European Union and the European Atomic Energy Community (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU wrth iddi geisio rhoi canlyniad y refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd ar waith.