NDM6913 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 07/01/2019 | I'w drafod ar 16/01/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 8(1) o, a pharagraff 21(b) i Atodlen 7 i, Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a Rheol Sefydlog 30A.10, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Rheoliadau’r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018, yn unol â’r Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol a gafodd ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Rhagfyr 2018.