NDM6878 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor
Wedi’i gyflwyno ar 21/11/2018 | I'w drafod ar 28/11/2018Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Meithrin Cydnerthedd - Ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mawrth 2018.
Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 4 Mehefin 2018.