NDM6874 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2018 | I'w drafod ar 27/11/2018Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r datganiad gan rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol a thlodi eithafol yn sgil ei ymweliad â'r Deyrnas Unedig.
2. Yn gresynu at ganfyddiadau'r adroddiad:
a) bod newidiadau i nawdd cymdeithasol wedi cael effaith anghymesur ar fenywod, plant a phobl anabl;
b) bod gan Gymru'r gyfradd tlodi cymharol uchaf yn y Deyrnas Unedig;
c) nad oes gan Lywodraeth Cymru ffocws strategol ar fynd i'r afael â thlodi, heb ddangosyddion a thargedau perfformiad clir i fesur cynnydd ac effaith;
d) bod anallu Llywodraeth Cymru i gyflwyno hyblygrwydd wrth weinyddu credyd cynhwysol, yn wahanol i Lywodraeth yr Alban, yn gwaethygu'r achosion strwythurol sydd y tu ôl i'r cynnydd mewn tlodi, cysgu allan a digartrefedd; a
e) bod tlodi yn ddewis gwleidyddol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ceisio'r pwerau i gyflwyno hyblygrwydd o'r fath wrth weinyddu credyd cynhwysol; a
b) cyhoeddi cynllun cadarn ac ystyrlon i fynd i'r afael â thlodi sy'n cynnwys dangosyddion a thargedau perfformiad clir i fesur cynnydd ac effaith.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r camau y mae Llywodraeth y DU wedi’u cymryd i fynd i’r afael â phryderon ynghylch rhoi credyd cynhwysol ar waith.
2. Yn nodi, yn ôl canfyddiadau adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ‘A yw Cymru’n Decach?’, fod tlodi ac amddifadedd yn uwch yng Nghymru nag yng ngwledydd eraill Prydain, mai Cymru yw’r genedl leiaf cynhyrchiol yn y DU, a bod enillion fesul awr canolrifol yng Nghymru yn is nag yn Lloegr a’r Alban.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun cadarn ac ystyrlon i fynd i’r afael â thlodi sy’n cynnwys dangosyddion a thargedau perfformiad clir i fesur cynnydd ac effaith.
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol - 'A yw Cymru’n Decach?’
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn derbyn canfyddiadau’r adroddiad:
a) bod costau cyni wedi’u hysgwyddo i raddau annheg gan bobl dlawd, menywod, lleiafrifoedd ethnig, plant, rhieni sengl a phobl anabl;
b) mai Cymru sydd â’r gyfradd tlodi cymharol uchaf yn y Deyrnas Unedig;
c) bod y gweinyddiaethau datganoledig wedi ceisio lliniaru effeithiau gwaethaf cyni, a hynny er gwaethaf dioddef gostyngiadau sylweddol yn eu cyllid grant bloc; ac
d) ei bod yn "warthus" bod rhaid i genhedloedd datganoledig wario arian i ddiogelu pobl rhag polisïau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Yn croesawu ffocws Llywodraeth Cymru ar drechu tlodi, a’i galwadau parhaus ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â diffygion niferus Credyd Cynhwysol.