NDM6873 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2018 | I'w drafod ar 27/11/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cyhoeddi’r astudiaethau dichonoldeb ar “Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru – Astudiaeth Ddichonoldeb” ac “Amgueddfa Chwaraeon i Gymru – Astudiaeth Ddichonoldeb”.

2. Yn croesawu’r dadansoddi a’r argymhellion yn y ddau adroddiad, ynghyd â’r cyfleoedd a’r heriau sydd ynghlwm wrthynt.

3. Yn cydnabod bod gofyn gwneud rhagor o waith cyn y gall penderfyniadau gael eu gwneud ynghylch camau gweithredu yn y dyfodol.

Astudiaeth Ddichonoldeb Amgueddfa Chwaraeon i Gymru

Astudiaeth Ddichonoldeb Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol

Gwelliannau

NDM6873 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2018

Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:

Yn cydnabod gwerth y dadansoddiad a ddarparwyd yn y ddau adroddiad fel sail ar gyfer ymgysylltu cyhoeddus helaeth;

Yn croesawu'r argymhellion ar gyfer paneli arbenigol i wella  sut y caiff treftadaeth chwaraeon a chelfyddydol Cymru ei chydnabod a'i diogelu.

Yn credu bod yn rhaid i benderfyniadau ar weithredu yn y dyfodol adlewyrchu uchelgais i greu rhywbeth ffres ac sy'n arwain y byd.

NDM6873 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2018

Ychwanegu ar ôl pwynt 2:

Yn croesawu’r argymhelliad y dylid sefydlu Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol yn Wrecsam.

NDM6873 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2018

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3:

Yn croesawu’r argymhelliad y dylid gweithio tuag at adeiladu pencadlys cenedlaethol parhaol ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes i Gymru.

NDM6873 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2018

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3: 

Yn galw ar i Lywodraeth Cymru ymrwymo i weithredu argymhelliad canolog yr adroddiad, 'Amgueddfa Chwaraeon i Gymru – Astudiaeth Ddichonoldeb', y dylid creu amgueddfa bêl-droed genedlaethol yn Wrecsam

 

NDM6873 - 5 | Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2018

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i weithredu argymhellion craidd yr adroddiad, 'Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru – Astudiaeth Dichonoldeb', yn eu cyfanrwydd, gan gynnwys adeiladu pencadlys cenedlaethol parhaol ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes i Gymru.