NDM6863 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018 | I'w drafod ar 14/11/2018Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai Cymru fod yn arweinydd byd mewn lles anifeiliaid.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gwneud gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng yn orfodol yn holl ladd-dai Cymru; a
b) gwahardd yr arfer o ladd anifeiliaid heb eu stynio yn holl ladd-dai Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wahardd allforio anifeiliaid byw at ddibenion eu magu a'u lladd.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ar ôl pwynt 1, dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn croesawu'r gwaith cadarnhaol a wnaed gan Lywodraeth y DU i sicrhau bod gan y DU rai o'r safonau lles anifeiliaid uchaf yn y byd.
Yn nodi'r ymgynghoriad diweddar a gynhaliwyd gan Lywodraeth y DU ar agweddau ar les anifeiliaid wrth eu cludo fel bod y drefn reoleiddio yn adlewyrchu gwybodaeth wyddonol a milfeddygol unwaith y bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Yn croesawu'r penderfyniadau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i gynyddu’r dedfrydau uchaf am greulondeb anifeiliaid i bum mlynedd a chyflwyno teledu cylch cyfyng gorfodol mewn lladd-dai yn Lloegr.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gwneud gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng yn orfodol mewn lladd-dai ledled Cymru;
b) archwilio'r posibilrwydd o gyflwyno cyfraith Lucy a gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a'r holl werthwyr trydydd parti masnachol yng Nghymru; ac
c) cynyddu cymorth ar gyfer lladd-dai bach a chanolig i sicrhau bod ffermwyr yn gallu prosesu stoc mor lleol â phosibl.
A call for evidence on controlling live exports for slaughter and to improve animal welfare during transport after the UK leaves the EU (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd gan
Ym mhwynt 2, ychwanegu is-bwynt newydd:
gwahardd gwerthu cŵn bach gan drydydd partïon i roi terfyn ar ffermio anfoesegol cŵn bach.
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd o ran:
a) cyflwyno grant busnesau bwyd ar gyfer lladd-dai bach a chanolig fel bod modd iddynt osod teledu cylch cyfyng a hefyd wneud gwelliannau busnes eraill;
b) cynnwys safonau cadarn o ran lles ac iechyd anifeiliaid mewn gwaith er mwyn diffinio’r Gwerthoedd Brand Cynaliadwy i’r diwydiant bwyd amaeth.
c) sicrhau bod unrhyw adolygiad o ddeddfwriaeth ym maes labelu bwyd sy’n gysylltiedig â lles anifeiliaid yn seiliedig ar dystiolaeth.
Yn nodi nad oes unrhyw ladd heb stynio yn digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd.
Yn nodi mai dymuniad Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod anifeiliaid yn cael eu lladd mor agos ag y bo’n ymarferol at eu pwynt cynhyrchu.