NDM6821 - Dadl y Cynulliad
Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2018 | I'w drafod ar 10/10/2018Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad Comisiwn y Cynulliad: "Creu Senedd i Gymru, adroddiad yr ymgynghoriad", Hydref 2018;
2. Yn nodi datganiad ysgrifenedig Comisiwn y Cynulliad: Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru);
3. Yn cytuno i ganiatáu i Gomisiwn y Cynulliad gyflwyno Bil i:
a) newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
b) ymestyn yr etholfraint ar gyfer etholiadau’r Cynulliad,
c) diwygio’r gyfraith yn ymwneud ag anghymhwyso, a
d) gwneud newidiadau eraill i drefniadau etholiadol a threfniadau mewnol y Cynulliad, a newidiadau sy’n gysylltiedig â hwy.
Creu Senedd i Gymru, adroddiad yr ymgynghoriad
Datganiad ysgrifenedig Comisiwn y Cynulliad: Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru)