NDM6819 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Wedi’i gyflwyno ar 27/09/2018 | I'w drafod ar 10/10/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i ymgorffori Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Personau Anabl yng nghyfraith Cymru.

2. Diben y Bil hwn fyddai cryfhau dulliau polisi sy'n seiliedig ar hawliau i hyrwyddo hawliau pobl ag anableddau a defnyddio Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Personau Anabl fel fframwaith ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol.

Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Personau Anabl (Saesneg yn unig)