NDM6816 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 26/09/2018 | I'w drafod ar 03/10/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu y dylid cynnal pleidlais y bobl drwy refferendwm y DU gyfan ar delerau terfynol ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd.

Gwelliannau

NDM6816 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 27/09/2018

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn credu bod yn rhaid parchu canlyniad refferendwm y DU gyfan ar aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd.

2. Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi Llywodraeth y DU yn y gwaith o ddiogelu uniondeb y Deyrnas Unedig wrthi inni adael yr UE.

NDM6816 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 27/09/2018

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod mai ewyllys pendant y bobl yw bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, fel a fynegwyd mewn refferendwm a gynhaliwyd llai na 27 mis yn ôl.

2. Yn galw ar wleidyddion y Deyrnas Unedig sydd yn erbyn gadael yr UE i barchu dymuniadau pleidleiswyr Cymru a Phrydain a fynegwyd yn ddiweddar a roi'r gorau i geisio tanseilio proses Brexit.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau'r fargen orau i Gymru a'r DU, y tu allan i'r UE, y farchnad sengl a'r undeb tollau.

NDM6816 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 28/09/2018

Dileu popeth ar ôl “credu” a rhoi yn ei le:

bod yn rhaid cadw’r opsiwn o gynnal pleidlais y bobl, a hynny’n enwedig os na fydd Prif Weinidog y DU yn gallu sicrhau cytundeb ar delerau terfynol ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd ac na fydd etholiad cyffredinol yn dilyn hynny. Os felly, rhaid i’r bobl benderfynu ar y ffordd ymlaen.