NDM6801 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 20/09/2018 | I'w drafod ar 03/10/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y bu 263 o fabanod farw neu'n farw-anedig yng Nghymru yn 2016 ac, yn aml, na all teuluoedd yr effeithir arnynt gan golli baban gael mynediad priodol at wasanaethau neu gymorth.

2. Yn croesawu wythnos ymwybyddiaeth colli babanod, a drefnir gan gynghrair o fwy na 60 o elusennau ledled y DU ac a gynhelir rhwng 9 a 15 Hydref 2018 i roi cyfle i godi ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd gofal profedigaeth rhagorol i bob rhiant ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu ar ôl marwolaeth baban.

3. Yn cydnabod bod wythnos ymwybyddiaeth colli babanod hefyd yn rhoi cyfle pwysig i rieni mewn profedigaeth, a'u teuluoedd a'u ffrindiau, i uno a choffáu bywydau eu babanod.

4. Yn cydnabod y dylai pob rhiant mewn profedigaeth gael yr un safon uchel o ofal pan fydd baban yn marw, ac er na all gofal da ddileu poen a galar rhieni, gall helpu rhieni drwy'r amser trychinebus hwn.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i wella'r gofal y mae rhieni yn ei dderbyn ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth baban drwy:

a) ymrwymo i ddarparu gwell gofal profedigaeth sydd ar gael i bob rhiant ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu ar ôl marwolaeth baban, a gwella'r gofal hwnnw;

b) mabwysiadu set graidd o safonau ar gyfer gofal profedigaeth sydd wedi'u defnyddio i ategu'r Llwybr Gofal Profedigaeth Cenedlaethol yn ardaloedd eraill y DU;

c) gweithio gyda GIG Cymru i sicrhau bod pob aelod o staff sy'n dod i gysylltiad â rhieni mewn profedigaeth yn cael hyfforddiant gofal profedigaeth.

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol - Marwolaeth plant yng Nghymru a Lloegr yn 2018 (Saesneg yn unig)

Cyflwynwyd gan