NNDM6800 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 20/09/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi mai Caerdydd yw'r unig gyngor yng Nghymru i gyflwyno terfyn cyflymder 20 milltir yr awr ar y rhan fwyaf o'i strydoedd, o'i gymharu â dros 50 o gynghorau yn Lloegr.

2. Yn cydnabod y manteision eang o ran iechyd, diogelwch a'r amgylchedd sy'n deilllio o gyflwyno parthau 20 mya mewn ardaloedd preswyl, fel y nodwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

3. Yn nodi'r cynnig ar gyfer Bil Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn 20 mya) (yr Alban) sy'n ceisio ei gwneud yn haws i gynghorau i leihau terfyn ardaloedd 30 mya i derfyn o 20 mya.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth fel bod terfyn cyflymder o 20 mya yn dod yn derfyn cyflymder safonol mewn ardaloedd preswyl yng Nghymru.

Iechyd Cyhoeddus Cymru – Safeguarding the health and wellbeing of future generations by introducing Wales wide 20mph speed limits (Saesneg yn unig)

Proposed Restricted Roads (20mph Limit) (Scotland) Bill (Saesneg yn unig)