NNDM6796 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 19/09/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gael gwared ar hepatitis C fel pryder iechyd cyhoeddus erbyn 2030, yn unol â thargedau Sefydliad Iechyd y Byd.

2. Yn llongyfarch staff GIG Cymru am eu gwaith parhaus i wella'r gwaith o ganfod achosion o hepatitis C a thriniaeth cleifion.

3. Yn cydnabod bod hepatitis C yn parhau i fod yn un o brif achosion marwolaethau cyn pryd o ganlyniad i glefyd yr afu a chanser yr afu.

4. Yn cydnabod bod chwistrellu cyffuriau yn y presennol /yn y gorffennol yn parhau i fod y ffactor risg mwyaf pwysig ar gyfer heintiau, ac y tybir bod tua hanner y bobl sy'n chwistrellu cyffuriau wedi'u heintio yng Nghymru.

5. Yn cydnabod os ydym yn mynd i fynd i'r afael â haint hepatitis C yng Nghymru, fod angen arweiniad gwleidyddol i wella gwaith atal, codi ymwybyddiaeth, cynyddu nifer o brofion a sicrhau bod mwy o unigolion yn cael triniaeth a gofal.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth genedlaethol a chynllun gweithredu ar gyfer dileu hepatitis c yng Nghymru.