NDM6776 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2018 | I'w drafod ar 19/09/2018Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y ffaith bod cyrhaeddiad graddau TGAU rhwng A * a C yng Nghymru yn haf 2018 ar y lefel waethaf ers 2005.
2. Yn mynegi pryder am safonau ysgol, o ystyried nifer yr ysgolion yng Nghymru a roddwyd mewn mesurau arbennig gan Estyn a sydd wedi cael hysbysiadau rhybuddio gan awdurdodau addysg lleol Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mwy mewn addysg i fynd i'r afael â'r bwlch ariannu fesul disgybl rhwng Cymru a Lloegr.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu pwynt newydd at ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi digon mewn addysg i sicrhau bod yr holl weithlu addysg yn derbyn hyfforddiant digonol ac o safon uchel.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd at ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi digon mewn addysg i sicrhau bod tal ac amodau’r holl weithlu addysg yn denu gweithlu gyda lefel uchel o sgiliau.
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
1. Croesawu:
a. bod cyfran y disgyblion sy’n cael y graddau uchaf, sef A*-A yn TGAU a Safon Uwch wedi cynyddu;
b. bod cynnydd o 50% yn nifer y cofrestriadau ar gyfer TGAU Gwyddoniaeth, gyda mwy o gofrestriadau yn cael A*-C;
c. bod cynnydd yn nifer y disgyblion sy’n cael A*-C yn TGAU Mathemateg a Mathemateg-Rhifedd gan gydnabod y canlyniadau gorau a gafwyd gan blant 16 oed yng nghyfresi Tachwedd a’r haf;
d. bod 76.3 y cant o ddisgyblion a oedd yn gwneud Safon Uwch wedi cael A*-C, y gyfradd uchaf ers 2009.
2. Nodi:
a. rhybudd Cymwysterau Cymru, o ystyried maint a chymhlethdod newidiadau diweddar, y dylid bod yn ofalus wrth lunio unrhyw gasgliadau drwy gymharu canlyniadau TGAU Haf 2018 a chanlyniadau blynyddoedd blaenorol, ond bod perfformiad cyffredinol yn sefydlog ar y cyfan;
b. bod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi nodi cynnydd mewn sawl maes polisi, a nodi bod ymagwedd Cymru wedi newid o fod yn un dameidiog a byrdymor i fod yn un sy’n cael ei llywio gan weledigaeth hirdymor; a
c. casgliad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, sef bod gwariant ysgolion fesul disgybl wedi cwympo mwy yn Lloegr nac yng Nghymru dros yr wyth mlynedd ddiwethaf, a bod hyn, i bob pwrpas, wedi cael gwared ar y bwlch gwariant fesul disgybl rhwng y ddwy wlad.
Adroddiad Cymwysterau Cymru – Trosolwg o ganlyniadau TGAU yng Nghymru – Haf 2018 (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd – 'The Welsh Education Reform Journey' (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid – ‘Comparing Schools Spending per Pupil in Wales and England’ (Saesneg yn unig)