NDM6755 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 26/06/2018 | I'w drafod ar 03/07/2018Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad Canolfan Poilisi Cyhoeddus Cymru o’r enw ‘Implications of Brexit for Fishing opportunities in Wales’.
2. Yn cydnabod yr heriau sylweddol ac unigryw sydd ynghlwm wrth Brexit o safbwynt diwydiant pysgota ac amgylchedd morol Cymru.
3. Yn cefnogi’r themâu allweddol canlynol a bennwyd gan yr is-grŵp moroedd ac arfordiroedd:
a) cynllunio i wneud y defnydd gorau o’n moroedd;
b) sicrhau stiwardiaeth effeithiol o’n hamgylchedd morol a’n hadnoddau naturiol;
c) parhau i fod yn bartneriaid cyfrifol wrth reoli moroedd a physgodfeydd y DU;
d) sicrhau bargen fwy teg ar gyfer y diwydiant pysgota; a
e) bod yn annibynnol.
4. Yn ailddatgan ei gefnogaeth dros fynediad llawn a dirwystr i farchnad sengl yr UE, gan gynnwys ar gyfer bwyd a physgodfeydd.
Implications of Brexit for Fishing Opportunities in Wales
Cafodd Themâu Strategol Allweddol yr Is-grŵp Bord Gron Moroedd ac Arfordiroedd eu hanfon mewn e-bost at yr Aelodau ar 26 Mehefin 2018.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu bwriad Llywodraeth y DU i geisio'r mynediad mwyaf posibl i'r farchnad sengl drwy gytundeb masnach rydd cynhwysfawr.
Cyflwynwyd gan
Ym mhwynt 2, dileu 'yr heriau' a rhoi 'y cyfleoedd' yn ei le.
Cyflwynwyd gan
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu parth economaidd unigryw o 200 milltir i roi mynediad unigryw i bysgotwyr y DU i foroedd o fewn 200 milltir o arfordir y DU.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod angen sicrhau llais cryf ar gyfer Cymru yn nhrafodaethau masnach yn sgil Brexit.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi pwysigrwydd pysgota i fywoliaeth gynaliadwy cymunedau arfordirol Cymru.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i neilltuo mwy o adnoddau ar gyfer pysgodfeydd a’r amgylchedd morol.