NDM6750 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2018 | I'w drafod ar 27/06/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r adroddiad, ‘Potensial hydrogen yn y datgarboneiddio o drafnidiaeth yng Nghymru’, a gyhoeddwyd gan Simon Thomas AC. 

2. Yn nodi bwriad datganedig Llywodraeth Cymru i adeiladu ar sgiliau ac arbenigedd i arwain y Deyrnas Gyfunol mewn ymchwil a datblygiad a buddsoddiad yn hydrogen.  

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i drafod gyda busnesau, ymchwilwyr a chyrff i gynnal digwyddiad allweddol i gyfleu uchelgais Cymru mewn perthynas â’r economi hydrogen i gynulleidfa fyd-eang ac fel sbardun i ddatblygu strategaeth economi hydrogen gynhwysfawr.

Potensial Hydrogen yn y Datgarboneiddio o Drafnidiaeth yng Nghymru

 

Gwelliannau

NDM6750 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2018

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i sicrhau bod unrhyw fathau o ynni amgen y maent yn archwilio iddynt yn bodloni'r profion  fforddiadwyedd, sy'n cynnwys peidio â gosod gormod o faich ar drethdalwyr.

NDM6750 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2018

Ym mhwynt 1, ar ôl 'Simon Thomas AC', mewnosoder:

', ac yn nodi ymhellach:

a) potensial hydrogen fel ffurf amgen o danwydd;

b) pwysigrwydd tanwydd hydrogen i arallgyfeirio ein portffolio ynni;

c) y gwahaniaeth pwysig rhwng tanwydd hydrogen gwyrdd a brown;

d) bod tanwydd hydrogen gwyrdd dim ond yn ddichonadwy fel sgil-gynnyrch o gynhyrchu gormodedd o drydan, ac felly dylid cydnabod ei gyfyngiadau; ac

e) bod angen i Lywodraeth Cymru wneud gwelliannau i seilwaith y grid yng Nghymru er mwyn sicrhau y gellir defnyddio trydan a hydrogen fel dewisiadau gwyrdd amgen yn lle tanwyddau ffosil.'

NDM6750 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2018

Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi’r pwyntiau a ganlyn yn eu lle:

Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd ati drwy’r Cynllun Gweithredu newydd ar yr Economi i ddatgarboneiddio modelau busnes traddodiadol, gwasanaethau cyhoeddus a seilwaith yng Nghymru a symud ymlaen at ddyfodol carbon isel mewn ffordd a all helpu’n heconomi i arallgyfeirio ac i dyfu.

Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio rhwydwaith trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys yr ymrwymiad diweddar i sicrhau gostyngiad o 25 y cant mewn allyriadau ar draws rhwydwaith rheilffordd Cymru a’r Gororau erbyn 2023.

Yn nodi bod yn rhaid i waith i ddatgarboneiddio system drafnidiaeth Cymru  fod yn eang ei sail, a bod angen gwneud gwaith ymchwil a datblygu creadigol ar atebion eraill o ran seilwaith ac ar draws amrywiaeth o danwyddau arloesol a systemau tyniant, gan gynnwys hydrogen.

Ffyniant i Bawb: y cynllun gweithredu ar yr economi