NDM6734 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2018 | I'w drafod ar 06/06/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi pwysigrwydd ardaloedd trefol yng Nghymru fel peiriannau o dwf economaidd, dysgu a chreadigrwydd.

2. Yn credu bod gofyn am strategaeth genedlaethol uchelgeisiol ar gyfer adfywio trefol yng Nghymru a fyddai'n helpu i wneud ein trefi a'n dinasoedd yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif.

3. Yn croesawu papur gwyn Ceidwadwyr Cymru, 'Dinasoedd Byw', sy'n ceisio adeiladu dinasoedd ac ardaloedd trefol sy'n gynhwysol yn gymdeithasol, yn gynaliadwy'n amgylcheddol, ac wedi’u seilio ar yr egwyddor o sicrhau iechyd a llesiant dinasyddion.  

'Dinasoedd Byw'

Gwelliannau

NDM6734 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 01/06/2018

Ym mhwynt 3, dileu 'croesawu' a rhoi 'nodi' yn ei le.

NDM6734 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 01/06/2018

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf aer glân i fynd i’r afael â lefelau anghyfreithlon a pheryglus o lygredd aer yn ninasoedd Cymru.

NDM6734 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 01/06/2018

Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:

Yn nodi pwysigrwydd cefnogi cymunedau ledled Cymru,rhai trefol a gwledig, i sicrhau eu bod yn ddeniadol i fuddsoddi, gweithio, byw, ymweld ac astudio ynddynt.

Yn credu bod cefnogi twf cynhwysol a chreu cymunedau cydnerth y mae’n bosib byw ynddynt yn galw am ddull ar y cyd o fynd i’r afael ag ymyriadau allweddol, gan gynnwys datblygu economaidd, buddsoddiadau adfywio, trafnidiaeth, datblygu seilwaith, cynllunio a sgiliau.

Yn bod Cynllun Gweithredu Economaidd diweddar Llywodraeth Cymru, Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, Cynllun Gweithredu Tasglu’r Cymoedd ac ymgynghoriad y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn sail ar gyfer dull trawslywodraethol gwirioneddol i gefnogi twf cynhwysfawr a chreu cymunedau cydnerth, y mae’n bosibl byw ynddynt.

Yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio â phartneriaid gan gynnwys awdurdodau lleol, rhanbarthau bargeinion dinesig a thwf, cymdeithasau tai, Trafnidiaeth Cymru a Banc Datblygu Cymru i hyrwyddo’r broses o greu lle.

Ffyniant i Bawb: y cynllun gweithredu ar yr economi

Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni

Ymgynghoriad: Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru