NDM6731 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 30/05/2018 | I'w drafod ar 06/06/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu adolygiad arfaethedig Llywodraeth y DU o gyllid prifysgolion a gyhoeddwyd ar 19 Chwefror 2018.

2. Yn nodi'r adroddiadau gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu: 'Over-qualification and skills mismatch in the graduate labour market' a 'The graduate employment gap: expectations versus reality'.

3. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i:

a) gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu model cynaliadwy ar gyfer cyllid myfyrwyr yn y dyfodol;

b) diddymu ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr STEM, meddygol a nyrsio; ac

c) ehangu cwmpas Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i adolygu cyrsiau gradd ar gyfer enillion disgwyliedig, a chyhoeddi'r adolygiadau hyn i bob darpar fyfyrwyr.

Chartered Institute of Personnel and Development - Over-qualification and skills mismatch in the graduate labour market (Saesneg yn unig)

Chartered Institute of Personnel and Development - The graduate employment gap: expectations versus reality (Saesneg yn unig)

Gwelliannau

NDM6731 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 01/06/2018

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adolygiad Llywodraeth Cymru o gyllid addysg uwch a gafodd ei arwain gan yr Athro Ian Diamond a’i gyhoeddi ar 27 Medi 2016.

2. Yn nodi i Adolygiad Diamond ganfu mai costau byw oedd y prif rwystr i’r rhai hynny a oedd yn gwneud penderfyniad ynghylch mynd i’r brifysgol.

3. Yn croesawu’r pecyn newydd ar gyllid i fyfyrwyr ar gyfer 2018/19 a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru, sy’n golygu:

a) y bydd myfyrwyr yn derbyn cymorth cynhaliaeth sy’n gyfwerth â’r Cyflog Byw Cenedlaethol – y cymorth mwyaf hael yn y DU;

b) y gall pob myfyriwr cymwys hawlio isafswm grant o £1,000 na fydd yn rhaid iddynt ei dalu yn ôl; a

c) mai Cymru yw’r wlad gyntaf yn Ewrop i gyflwyno cymorth cynaliaeth sy’n gyfwerth â’r Cyflog Byw Cenedlaethol i israddedigion amser llawn a rhan-amser. Caiff ei gynnig i fyfyrwyr ôl-raddedig yn 2019.

 Adolygiad Annibynnol o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru

NDM6731 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 01/06/2018

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

d) gweithredu argymhellion adolygiad Diamond ar gyfer Llywodraeth Cymru i annog myfyrwyr i aros yng Nghymru i astudio neu ddychwelyd i Gymru ar ôl graddio.

NDM6731 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 01/06/2018

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu bod Cymru yn profi draen dawn, gyda mwy o raddedigion prifysgol yn gadael Cymru nag yn ymgartrefu yn y wlad.

Yn cydnabod llwyddiant sefydliadau addysg bellach Cymru o ran cefnogi cadw talent yn economi Cymru. 

Yn gresynu at y diffyg rhaglenni prentisiaethau lefel 6+ sydd ar gael yng Nghymru i wella sgiliau'r gweithlu.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) darparu mwy o gymhellion i raddedigion prifysgol ymgartrefu yng Nghymru unwaith y byddant wedi gorffen eu graddau; 

b) annog mwy o ymgysylltu rhwng sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach i hyrwyddo cadw talent; ac

c) hyrwyddo argaeledd mwy o raglenni prentisiaethau lefel 6+ yng Nghymru.