NDM6723 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 09/05/2018 | I'w drafod ar 16/05/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r cynnydd diweddar mewn tlodi plant.

2. Yn nodi gwaith ymchwil ar gyfer Achub y Plant Cymru a ganfu, erbyn iddynt droi’n bump oed, fod “tua thraean o’r plant sy’n byw mewn tlodi (30-35y cant) eisoes yn colli tir mewn amrywiaeth o ddeilliannau gwybyddol (h.y. geirfa, datrys problemau, deheurwydd a chydsymud) o’i gymharu ag un o bob pump o’r rhai sy’n dod o deuluoedd mwy cyfoethog (20-21 y cant).

3. Yn credu bod y cyfrifoldeb dros y cynnydd mewn tlodi plant a dros fynd i'r afael â thlodi plant, yn nwylo Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

4. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi dirwyn y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf i ben heb werthuso ei heffeithiolrwydd na darparu cynllun i gymryd ei lle.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau mynediad cyfartal at addysg plentyndod cynnar o ansawdd uchel a gofal i bob plentyn yng Nghymru, gyda ffocws penodol ar ddarparu cymorth ychwanegol i'r holl blant sy'n byw mewn tlodi, fel yr argymhellwyd gan Achub y Plant Cymru.

6. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i gymryd yr holl gamau o fewn ei phwerau i fynd i'r afael â thlodi plant fel rhan o'r cynllun newydd ar gyfer dileu tlodi plant, sy'n cynnwys targedau SMART yn hytrach na datganiadau amwys.

7. Yn credu na all cynllun o'r fath lwyddo heb reolaeth weinyddol dros nawdd cymdeithasol ac y dylai sicrhau'r pwerau hyn fod un o brif amcanion strategol y cynllun newydd.

Achub y Plant Cymru - Darnau Bach, Darlun Mawr - Manteisio ar Addysg Gynnar a Gofal Plant i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yng Nghymru yn cael ei adael ar ôl.

Gwelliannau

NDM6723 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 10/05/2018

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod lefelau tlodi plant yng Nghymru yn uwch na lefel y DU gyda chyfraddau'n codi cyn y dirwasgiad diwethaf.

2. Yn nodi gwaith ymchwil ar gyfer Achub y Plant Cymru a ganfu, erbyn iddynt droi’n bump oed, fod “tua thraean o’r plant sy’n byw mewn tlodi (30-35 y cant) eisoes yn colli tir mewn amrywiaeth o ddeilliannau gwybyddol (h.y. geirfa, datrys problemau, deheurwydd a chydsymud) o’i gymharu ag un o bob pump o’r rhai sy’n dod o deuluoedd mwy cyfoethog (20-21 y cant)."

3. Yn cydnabod er bod polisi Llywodraeth y DU mewn meysydd sydd wedi'u cadw hefyd yn gymwys yng Nghymru, fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am hyrwyddo ffyniant a rhaglenni trechu tlodi, gan gynnwys Cymunedau yn Gyntaf, yng Nghymru ers 1999.

4. Yn nodi pwysigrwydd mynediad at ofal ac addysg plentyndod cynnar o ansawdd uchel ar gyfer plant yng Nghymru a'r angen am gymorth wedi'i dargedu ar gyfer plant sy'n byw mewn tlodi.

5. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i gymryd yr holl gamau o fewn ei phwerau i fynd i'r afael â thlodi plant fel rhan o'r cynllun newydd ar gyfer dileu tlodi plant, sy'n cynnwys targedau SMART yn hytrach na datganiadau amwys.

NDM6723 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 11/05/2018

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1.  Yn credu bod y cyfrifoldeb dros fynd i'r afael â thlodi plant yn nwylo Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

2.   Yn nodi gyda phryder bod dadansoddiad diweddaraf y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn dangos y bydd diwygiadau treth a lles Llywodraeth y DU yn gwthio 50,000 o blant ychwanegol i dlodi erbyn 2021/22.

3.    Yn croesawu ffocws Llywodraeth Cymru ar gyflogaeth fel y llwybr gorau allan o dlodi a’r camau gweithredu uchelgeisiol a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu ar yr Economi a’r Cynllun Cyflogadwyedd.

4.    Yn croesawu’r buddsoddiad parhaus yn Dechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, y Grant Datblygu Disgyblion a Rhaglen Plant Iach Cymru er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau posibl yn eu bywydau.

5.    Yn credu y dylid diwallu anghenion lles holl ddinasyddion y DU yn gyfartal ac nad yw datganoli budd-daliadau lles yn cefnogi’r egwyddor hon.

Ymchwil y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Cynllun Gweithredu ar yr Economi

Cynllun Cyflogadwyedd