NDM6718 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 01/05/2018 | I'w drafod ar 09/05/2018Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r problemau a achosir gan ddefnyddio alcohol mewn ffordd niweidiol a'r effaith difrodol y caiff camddefnyddio sylweddau ar deuluoedd a chymunedau.
2. Yn credu:
a) y bydd cynnig Llywodraeth Cymru ar gyfer isafbris uned o alcohol yn cael effaith ariannol andwyol ar y bobl dlotaf mewn cymdeithas; a
b) na fydd y gwerth arfaethedig o thua 50 ceiniog yr uned alcoholig yn llwyddo i wneud unrhyw newid sylweddol i faint o alcohol y mae'r rhai sy'n yfed llawer o alcohol yn gyson yn ei yfed.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r gorau i Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) a gwneud mwy i fynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol heb orfod troi at isafbris fesul uned.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cefnogi egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru).
Yn gresynu at yr effaith niweidiol y gall y Bil ei chael ar gyllidebau aelwydydd sydd ar incwm isel ac y gall arwain at droi at sylweddau anghyfreithlon ynlle alcohol.
Yn cefnogi diwygio'r Bil, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, er mwyn paratoi adroddiad gwerthuso sy'n cyfeirio at effeithiau isafbris drwy gyfeirio at grŵp oedran, rhyw a statws economaidd-gymdeithasol, y defnydd o gyffuriau eraill yn lle alcohol, trais yn y cartref, effaith ar wasanaethau cymorth a'r effaith ar fanwerthwyr alcohol.
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn craffu arno ar hyn o bryd.
Yn nodi bod yr isafbris uned arfaethedig am alcohol yn un o blith sawl mesur gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig â defnydd peryglus a niweidiol o alcohol yng Nghymru.
Yn nodi’r pecyn gwerth £50 miliwn o gymorth ar gyfer pobl sydd â phroblemau alcohol a defnyddio sylweddau yng Nghymru bob blwyddyn.
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod angen i fesurau iechyd y cyhoedd gael cefnogaeth y cyhoedd i fod yn llwyddiannus ac, er mwyn cyflawni hyn, bod angen pennu isafbris ar lefel a ategir gan ymchwil cadarn a all ddangos yr effaith y bydd yn ei chael ar iechyd y cyhoedd, ac yn cydnabod yr angen i osgoi cael effaith anghymesur ar yfwyr cymedrol ar incwm is.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymgyrch gyfathrebu eang i gyd-fynd â'r ddeddfwriaeth sy'n esbonio nodau a diben y ddeddfwriaeth, gan gynnwys camau y gall yfwyr cymedrol eu cymryd i leihau'r effaith ariannol ar eu hunain, er enghraifft drwy leihau faint o alcohol y maent yn ei yfed yn gyffredinol neu ddewis diodydd gyda chynnwys alcohol is; byddai'r ddau yn arwain at fanteision iechyd.
Yn cydnabod manteision isafbris alcohol fesul uned ar gyfer tafarndai.