NDM6712 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2018 | I'w drafod ar 02/05/2018Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).
2. Yn nodi ymhellach fod y cytundeb yn gwneud y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru), a basiwyd gan fwyafrif yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, yn ddiangen.
3. Yn gresynu at y ffaith bod y cytundeb yn rhoi feto dros feysydd deddfwriaeth ddatganoledig i Senedd y DU.
4. Yn gresynu ymhellach at y ffaith bod y cytundeb yn tanseilio Papur Gwyn Llywodraeth Cymru-Plaid Cymru sy'n datgan "na ddylai ymadawiad y DU o’r UE arwain at Lywodraeth y DU yn crafangu pwerau datganoledig yn ôl. Bydd unrhyw ymgais o’r fath yn cael ei gwrthwynebu’n gadarn gennym".
5. Yn galw am bleidlais ystyrlon ar y cytundeb yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
European Union (Withdrawal) Bill (Saesneg yn unig)
Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru)
Papur Gwyn: Diogelu Dyfodol Cymru - Pontio o’r Undeb Ewropeaidd i berthynas newydd ag Ewrop
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
3. Yn cytuno bod y canlyniad cadarnhaol hwn i'r negodiadau â Llywodraeth y DU yn diogelu pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol dros bolisïau datganoledig yn yr amgylchiadau sy'n newid sydd wedi'u creu gan Brexit ac yn cyfnerthu Confensiwn Sewel, ar sail y sefyllfa ddiofyn bod angen cydsyniad y Cynulliad ar gyfer newidiadau i gymwyseddau'r Cynulliad.
4. Yn croesawu'r ffaith y caiff unrhyw fframweithiau gan y DU gyfan i ddisodli fframweithiau presennol yr UE eu negodi'n rhydd rhwng y llywodraethau ac y byddant yn ddarostyngedig i Gonfensiwn Sewel; a thra bo'r fframweithiau hyn yn cael eu negodi, na fydd unrhyw Lywodraeth, gan gynnwys Llywodraeth y DU mewn perthynas â Lloegr, yn gallu cyflwyno deddfwriaeth sy'n gwyro oddi ar y sefyllfa bresennol.
5. Yn nodi ymhellach y caiff y Cynulliad Cenedlaethol y cyfle am bleidlais ystyrlon ar y cytundeb pan fydd yn ystyried y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol sydd i'w gyflwyno gan Lywodraeth Cymru.
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu:
a) y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael);
b) y bydd hyn yn amddiffyn marchnad fewnol y DU ac yn sicrhau na fydd rhwystrau newydd yn cael eu creu o fewn y DU ar gyfer defnyddwyr a busnesau;
c) bod hyn yn golygu y bydd y mwyafrif llethol o bwerau'r UE sy'n croestorri â chymwyseddau datganoledig yn mynd yn uniongyrchol i seneddau a chynulliadau datganoledig pan fydd y DU yn gadael yr UE;
d) y ddyletswydd a osodir ar Weinidogion y DU i geisio cytundeb y deddfwrfeydd datganoledig bob tro y maent yn bwriadu gwneud rheoliadau i roi maes polisi o dan y pwerau sydd wedi'u rhewi yng nghymal 11;
e) y terfyn amser a gyflwynwyd ar y cyfyngiad dros dro ar gymhwysedd datganoledig; ac
f) bod hyn yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru bellach yn argymell bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n pasio cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Bil (Ymadael) yr UE.