NDM6710 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2018 | I'w drafod ar 02/05/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 01-18 gyda’r adroddiad gan Syr John Griffith Williams QC o dan baragraff 8.6 o’r weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau’r Cynulliad - a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 18 Ebrill 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.

2. Yn cymeradwyo'r argymhelliad yn yr adroddiad bod achos o dorri amodau wedi ei ganfod a phenderfynu y dylai'r Aelod, o dan Reol Sefydlog 22.10 (i) a (iii) gael ei geryddu a'i wahardd o drafodion y Cynulliad am y cyfnod o saith niwrnod calendr yn syth ar ôl derbyn y cynnig hwn.