NDM6706 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 18/04/2018 | I'w drafod ar 25/04/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth y DU i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y bwriad i ailenwi Ail Bont Hafren.

Gwelliannau

NDM6706 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 20/04/2018

Dileu’r cyfan a rhoi’r canlynol yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r ffaith bod ail Bont Hafren wedi cael ei hailenwi gan Lywodraeth y DU, sydd â’r cyfrifoldeb drosti.

2. Yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i gynnal ymgyngoriadau lleol ar enwi pontydd newydd ar gefnffyrdd yng Nghymru.