NDM6703 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 11/04/2018 | I'w drafod ar 18/04/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r argyfwng cynyddol o ran recriwtio athrawon mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru. 

2. Yn gresynu at y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud digon hyd yma i fynd i'r afael ag achosion hyn. 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg i ddatblygu cynllun gweithlu ysgolion cenedlaethol i Gymru, er mwyn:

a) dileu rhwystrau diangen i recriwtio athrawon a hyfforddwyd dramor;

b) cydnabod sgiliau athrawon profiadol a llwyddiannus sy'n gweithio mewn colegau addysg bellach, ac mewn ysgolion annibynnol a cholegau, drwy roi statws athrawon cymwysedig iddynt; ac

c) sefydlu llwybrau i addysgu ar gyfer cynorthwywyr cymorth addysgu profiadol yng Nghymru. 

Gwelliannau

NDM6703 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 13/04/2018

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1:

Yn nodi ffigyrau National Education Union Cymru sy’n dangos bod dros 50,000 y flwyddyn o ddyddiau gwaith yn cael eu colli gan athrawon oherwydd salwch sy’n ymwneud a straen a bod 33.6 y cant o’r athrawon ysgol a wnaeth ymateb i arolwg gweithlu addysg cenedlaethol Cyngor y Gweithlu Addysg yn bwriadu gadael eu proffesiwn yn ystod y tair blynedd nesaf.

Datganiad i'r Wasg National Education Union Cymru, 'New Education Minister Must Tackle Stress' - 25 Gorffennaf 2016

Arolwg Gweithlu Addysg Cenedlaethol Cyngor y Gweithlu Addysg

NDM6703 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 13/04/2018

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn nodi gwaith parhaus Llywodraeth Cymru i ddatblygu proffesiwn addysg o ansawdd uchel a denu’r goreuon i addysgu yng Nghymru, gan gynnwys:

a) diwygio a chryfhau Addysg Gychwynnol i Athrawon;

b) cymhelliannau wedi’u targedu ar gyfer graddedigion o ansawdd uchel mewn pynciau â blaenoriaeth ac addysg cyfrwng Cymraeg;

c) ymgyrch recriwtio ddigidol barhaus wedi’i thargedu’n fanwl;

d) sefydlu’r Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol; a

e) sefydlu Bwrdd Cynghori Recriwtio a Chadw Athrawon.